Skip to main content

◆Addysgu · Teaching

Addysgu ac addysg

Yn Gymraeg, mae'r un gair, dysgu, yn golygu to learn a to teach, sy'n gweddu'n dda iawn i ddysgwr fel fi. Rydw i wedi gwneud llawer iawn o'r ddau. Rwy'n Gymrawd yr Academi Addysg Uwch (FHEA), a dros y blynyddoedd rydw i wedi rhoi darlithoedd gwadd a gweithdai mewn prifysgolion gan gynnwys Caergrawnt, Coleg Imperial Llundain, Warwick, Stirling, Birmingham, yr Université du Littoral Côte d'Opale, yr Università della Svizzera italiana, a phrifysgolion Melbourne ac Adelaide.

Darllen yn Saesneg  ·  Yn ôl i'r dudalen Gymraeg

Yn Ysgol Pensaernïaeth Sheffield rydw i wedi cynnal sesiynau gyda'r offeryn Carbon Mixer, a gweithdai ar ynni adnewyddadwy a meddalwedd ynni adnewyddadwy. Yng ngeiriau Dr Sofie Pelsmakers: Gavin is a natural educator ("Mae Gavin yn addysgwr wrth reddf").

Rydw i hefyd yn arholi graddau ymchwil. Rydw i wedi bod yn arholwr allanol ar gyfer doethuriaethau, MPhil, a graddau MSc drwy Ymchwil ac MRes yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, ym Mhrifysgol Abertawe (gan gynnwys ei Hacademi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu), ym Mhrifysgol Caerlŷr ac ym Mhrifysgol Stellenbosch yn Ne Affrica.

Mae fy llyfrau wedi cyrraedd ystafelloedd dosbarth hefyd, o raglenni ieuenctid 4-H yn yr Unol Daleithiau i gyrsiau prifysgol.

Ac rydw i wedi bod yn fyfyriwr ers amser maith. Ochr yn ochr â fy noethuriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, mae fy astudiaethau wedi cynnwys MSc mewn Dulliau Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol yng Nghaerdydd; MSc Advanced Environmental and Energy Studies yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen ger Machynlleth; MSc mewn Technoleg Systemau Ynni Adnewyddadwy; MBA mewn Addysg; a graddau israddedig mewn peirianneg a thechnoleg. Mae'r rhestr lawn ar fy CV (yn Saesneg).

Addysgu: y dudalen Saesneg
Curriculum vitae (Saesneg)

Cyhoeddiadau am addysg a sgiliau

Saesneg

Cyhoeddiadau ar y wefan sydd wedi'u tagio ag SDG 4, Addysg o Ansawdd.

2014
Journal of International Scientific Publications: Educational Alternatives
2013
2013
2011
2009
2009
2009

Mwy amdanaf i, yn Gymraeg

Dysgwr ydw i, ac mae'r Gymraeg ar y dudalen hon heb ei phrawfddarllen eto: mae croeso mawr i gywiriadau.  Croeso: y dudalen Gymraeg  ·  Yn ôl i'r brif wefan